Justin Bell
Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd Fach y Rhyl
Mae gan Justin gysylltiad gydol oes â’r dref. Symudodd i’r Rhyl yn 1985 pan brynodd ei rieni dŷ gwestai ar Heol River, gan roi mewnwelediad cynnar iddo i ddiwydiant twristiaeth y dref. Ers gwirfoddoli yn y rheilffordd ym 1999, mae’r hyn a ddechreuodd fel ffordd o lenwi prynhawn wedi tyfu’n angerdd a gyrfa hirdymor. O dan ei arweinyddiaeth, mae’r rheilffordd – a gydnabyddir fel y rheilffordd fach hynaf yn y DU – wedi ehangu’n sylweddol, gan gynyddu ei dyddiau gweithredu ac adfer locomotifau a cherbydau hanesyddol.
Ymunodd Justin â’r Bwrdd i helpu i wella’r Rhyl ei hun a’r ffordd y caiff ei gweld, gan dynnu ar ei wreiddiau dwfn yn y sector twristiaeth lleol. Mae ei gefndir yn cynnwys gweithio ym maes manwerthu, cefnogi grŵp sgowtiaid lleol, a chyfrannu at fusnes y teulu, ac mae hyn oll wedi siapio ei ddealltwriaeth o’r dref a’i chymuned.
Mae’n gobeithio y bydd y strategaeth yn cyflwyno gwelliannau gwirioneddol drwy wrando ar bobl leol, cynyddu swyddi, denu mwy o ymwelwyr, a chefnogi siopau ac atyniadau ffyniannus. I Justin, mae llwyddiant yn golygu Rhyl brysur a bywiog gyda stryd fawr gref, atyniadau poblogaidd, a mwy o gyfleoedd i bobl ifanc fwynhau a theimlo’n rhan o’u tref.