MAE’R RHYL mewn sefyllfa gref i roi ei gweledigaeth uchelgeisiol gwerth £20 miliwn ar waith yn dilyn digwyddiad Pride in Place mawr yng Nghaerdydd.
Ymunodd aelodau o Fwrdd Cymdogaeth Ein Rhyl/Our Rhyl â chynrychiolwyr o gymunedau ledled y DU yn Neuadd Dewi Sant, Cornerstone Caerdydd, gan rannu syniadau, trafod arferion gorau ac edrych ymlaen at gam nesaf y rhaglen 10 mlynedd.
Ymunodd aelodau’r Bwrdd Julie Pierce a Linzi Jones â’r Cadeirydd Craig Sparrow, ynghyd â Janine Downing, Prif Swyddog Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC), i gynrychioli’r dref wrth i’r paratoadau ar gyfer cyflawni’r rhaglen barhau.




Julie yw Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, tra bod Linzi yn sylfaenydd The Step-Up Hub, yn ymgynghorydd marchnata a chyfathrebu ac yn ymddiriedolwr DVSC.
Rhoddodd y fforwm gyfle i ardaloedd ddod ynghyd, cyfnewid syniadau a thrafod cynnydd a’r gwaith o gyflawni cynlluniau hirdymor sydd wedi’u llunio gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn eu cymunedau.
I’r Rhyl, roedd hefyd yn gyfle i fyfyrio ar y camau breision sydd eisoes wedi’u cymryd yn dilyn gwaith ymgysylltu helaeth â thrigolion, pobl ifanc, busnesau, sefydliadau a grwpiau cymunedol.
Mae’r Bwrdd yn parhau i fireinio a chryfhau ei gynigion cyn y cam nesaf, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod pobl leol yn parhau wrth galon y broses o wneud penderfyniadau. “Roedd yn hynod ddefnyddiol cyfarfod â phobl o ardaloedd eraill, rhannu syniadau a chlywed am y gwahanol ddulliau sy’n cael eu mabwysiadu,” meddai Craig.
“Roedd ymdeimlad gwirioneddol bod y Rhyl mewn sefyllfa gref. Mae llawer iawn o waith eisoes wedi’i wneud, yn enwedig o ran ymgysylltu â’n cymuned a gwrando ar yr hyn y mae pobl am ei weld yn digwydd yn y dref.
“Rydym yn parhau i ddatblygu a chryfhau’r cynllun, ac mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle i ni ddysgu gan eraill, yn ogystal â rhannu rhywfaint o’r gwaith cadarnhaol
sy’n digwydd yma yn y Rhyl.”
Ychwanegodd Julie: “Un peth a ddaeth i’r amlwg yn gryf oedd pwysigrwydd cynnwys cymunedau wrth lunio’r hyn sy’n digwydd nesaf. Mae gennym gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol dros y blynyddoedd nesaf, ond rhaid i hynny gael ei lywio gan flaenoriaethau, profiadau a syniadau pobl y Rhyl.
“Mae ymdeimlad cadarnhaol iawn ac ymrwymiad cryf i’r rhaglen, ac roedd yn galonogol gweld hynny’n cael ei adlewyrchu yn y sgyrsiau ag ardaloedd eraill yng Nghaerdydd.”
Ychwanegodd Linzi: “Hoffem hefyd ddiolch i dîm Pride in Place am eu cyngor, eu harweiniad a’u cefnogaeth barhaus drwy gydol y broses hon.
“Mae’r bennod nesaf yn ymwneud â throi’r holl waith ymgysylltu a chynllunio hwnnw yn weithredu, gan weithio ochr yn ochr â sefydliadau, grwpiau a thrigolion ledled y Rhyl i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol.
“Mae hon yn daith 10 mlynedd, ac rydym am i’r gymuned fod yn rhan ohoni bob cam o’r ffordd.”
Bydd y rhaglen yn gweld £20 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y Rhyl dros y degawd nesaf, gyda phrosiectau a blaenoriaethau’n cael eu llunio gan anghenion lleol a safbwyntiau’r gymuned.
