Mae’r tîm sy’n gyfrifol am raglen adfywio gwerth £20 miliwn yn Rhyl yn lansio ei ymgyrch ymgysylltu cymunedol fwyaf hyd yma, gan fynd â’r sgwrs yn uniongyrchol i gymdogaethau, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau yr haf yma.
Dros y misoedd nesaf, bydd aelodau o Fwrdd Our Rhyl / Ein Rhyl yn mynychu digwyddiadau, gweithdai, cyfarfodydd a gweithgareddau ar draws y dref i gasglu syniadau, blaenoriaethau ac uchelgeisiau newydd gan bobl leol wrth i gynlluniau ar gyfer dyfodol y dref symud i’w cam nesaf.
Bydd y rhaglen ymgysylltu eang yn helpu i lunio’r weledigaeth hirdymor derfynol ar gyfer Rhyl, nodi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol, a sicrhau bod lleisiau lleol yn parhau i fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau wrth i raglen Pride in Place fynd rhagddi.




Bydd aelodau’r Bwrdd yn casglu safbwyntiau ar yr hyn y mae pobl yn ei hoffi am Rhyl, y gwelliannau yr hoffent eu gweld, a’r hyn yr hoffent i’r dref fod yn adnabyddus am ymhen 10 mlynedd.
Dywedodd Craig Sparrow, Cadeirydd Bwrdd Our Rhyl: “Rydym wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gwrando ar filoedd o bobl ac yn casglu cyfoeth aruthrol o fewnwelediad gwerthfawr, ond nid ydym yn stopio yno.
“Rydym yn nesáu nawr at gam pwysig dros ben lle rydym am fynd allan i’r gymuned eto, siarad â chyn belled o bobl â phosib a sicrhau bod y weledigaeth derfynol ar gyfer Rhyl yn adlewyrchu uchelgeisiau’r bobl sy’n byw, gweithio a threulio amser yma.”
Mae’r ymgyrch ymgysylltu yn adeiladu ar dros flwyddyn o ymgynghori sydd eisoes wedi creu cannoedd o ymatebion arolwg, ymgysylltu â miloedd o drigolion a busnesau, a chyrraedd cynulleidfa ar-lein gynyddol drwy gyfryngau cymdeithasol, gweithdai a digwyddiadau cymunedol.
Yn gynharach eleni, cyflwynwyd Bwrdd wedi’i adnewyddu i helpu arwain pennod nesaf y rhaglen, gan ddod ynghyd arbenigedd o feysydd adfywio, twristiaeth, iechyd, plismona, grwpiau ffydd, sefydliadau cymunedol a’r trydydd sector.
Ochr yn ochr â’r rhaglen ymgysylltu, mae Grwpiau Gweithredu thematig newydd yn cael eu sefydlu i roi cyfleoedd ymarferol i drigolion, busnesau a sefydliadau helpu llunio prosiectau, nodi blaenoriaethau a chefnogi cyflawniad y cynllun dros y degawd i ddod.
Bydd y grwpiau’n chwarae rôl bwysig wrth helpu’r Bwrdd i feithrin partneriaethau, manteisio ar gyfleoedd cyllido pellach a throi blaenoriaethau cymunedol yn brosiectau y gellir eu cyflawni.
Ychwanegodd Craig: “Mae hyn yn gyfle i bobl ddylanwadu ar sut y gall buddsoddiad o £20 miliwn fod o fudd i Rhyl dros y degawd nesaf. Rydym am i bobl gymryd sylw – mae hyn yn gael ei arwain gan y gymuned, mae’n uchelgeisiol, ac mae wedi’i gynllunio i roi llais gwirioneddol i bobl leol.

“Os ydych yn drigolyn, perchennog busnes, grŵp cymunedol, person ifanc neu wirfoddolwr, rydym eisiau i chi fod yn rhan o’r hyn sydd i ddod.”
Bydd y Bwrdd yn mynychu digwyddiadau ac yn casglu barn mewn lleoliadau ar draws y dref gan gynnwys y White Rose Centre, Brickfield Pond, y Neuadd Dref, Gerddi Coronation, archfarchnadoedd a manwerthwyr lleol, ysgolion, parciau busnes, Marine Lake, y promenâd, clybiau chwaraeon, Marchnad y Frenhines a mwy – cysylltwch â ni gyda’ch syniadau.
